Lleoliad:
Video Conference via Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 14 Mai 2020
Amser:
14.01 -
15.09
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6133
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Dawn Bowden AS Mark Isherwood AS Delyth Jewell AS Caroline Jones AS |
Tystion: |
Jane Hutt AS, Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip Alyson Francis, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Bethan Davies (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Hannah Johnson (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
1.3 Dywedodd y Cadeirydd, pe bai’n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, fod y Pwyllgor wedi cytuno y byddai Dawn Bowden AS yn dod yn Gadeirydd dros dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
1.4 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb gan Huw Irranca-Davies AS.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan:
· Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip
· Alyson Francis, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Gymunedau, Llywodraeth Cymru
2.2 Yn ystod y cyfarfod cytunodd y Gweinidog i:
· Rannu data ar gyfraddau marwolaethau COVID-19 yn ôl rhyw, ethnigrwydd a galwedigaeth.
· Darparu’r ohebiaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Chymorth i Fenywod Cymru ynghylch cyllid ar gyfer gwasanaethau cam-drin domestig.
· Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am waith y grŵp cyllido cynaliadwy.
· Darparu data ar y sector gwirfoddol yng Nghymru a’i symudiadau ers dechrau’r achosion o COVID-19.
3.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 2.
5.1 Trafododd y Pwyllgor yr amserlen ddiwygiedig ar gyfer y Bil Llywodraeth Lleol ac Etholiadau (Cymru) a chytunodd arni.